Hawl

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Absenoldeb Mamolaeth Statudol

Gall cyflogeion cymwys gymryd hyd at 52 wythnos o absenoldeb mamolaeth. Gelwir y 26 wythnos gyntaf yn ‘Absenoldeb Mamolaeth Cyffredin’, a’r 26 wythnos olaf yn ‘Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol’.

Y cynharaf y gellir cymryd absenoldeb yw 11 wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i’r plentyn gael ei eni, oni bai ei fod yn cael ei eni’n gynnar.

Mae’n rhaid i gyflogeion gymryd o leiaf 2 wythnos ar ôl yr enedigaeth (neu 4 wythnos os ydynt yn gweithio mewn ffatri).

Tâl Mamolaeth Statudol (SMP)

Gellir talu Tâl Mamolaeth Statudol ar gyfer cyflogeion cymwys am hyd at 39 wythnos, fel arfer fel a ganlyn:

  • y 6 wythnos gyntaf: 90% o’u henillion wythnosol cyfartalog cyn treth

  • y 33 wythnos sy’n weddill: £184.03 neu 90% o’u henillion wythnosol cyfartalog (AWE) (pa un bynnag sydd isaf)

Mae angen didynnu treth ac Yswiriant Gwladol.

Defnyddiwch y gyfrifiannell Tâl Mamolaeth Statudol (yn agor tudalen Saesneg) i gyfrifo absenoldeb a thâl mamolaeth cyflogai.

Mae gan rai mathau o gyflogaeth, megis gweithwyr asiantaeth, cyfarwyddwyr a gweithwyr addysgol, wahanol reolau o ran hawl (yn agor tudalen Saesneg).

Absenoldeb neu dâl ychwanegol

Gallwch gynnig mwy na’r symiau statudol os oes gennych gynllun mamolaeth cwmni. Mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich polisïau o ran absenoldeb a thâl mamolaeth yn glir ac ar gael i staff.

Adennill taliadau

Hyd yn oed os ydych yn talu mwy na’r swm statudol i gyflogai, fel arfer, gallwch ond adennill 92% o’r swm hwnnw. Efallai y gallwch adennill 103% os ydych yn gymwys i gael Rhyddhad Cyflogwr Bach. Darllenwch ragor am adennill tâl statudol.

Os yw’r baban yn cael ei eni’n gynnar

Mae absenoldeb yn dechrau’r diwrnod ar ôl yr enedigaeth, os yw’r baban yn cael ei eni’n gynnar.

Mae’n rhaid i’r cyflogai roi tystysgrif geni’r plentyn i chi neu ddogfen wedi’i llofnodi gan feddyg neu fydwraig sy’n cadarnhau’r union ddyddiad geni.

Mae’n rhaid i chi ysgrifennu at eich cyflogai er mwyn cadarnhau’r dyddiad newydd y bydd ei habsenoldeb yn dod i ben.

Ar gyfer genedigaethau cynnar iawn, bydd angen i chi cyfrifo SMP gan ddefnyddio’ch meddalwedd gyflogres (os yw’n cynnwys y nodwedd hon) neu ei gyfrifo â llaw (yn agor tudalen Saesneg). Genedigaeth gynnar iawn yw pan fo’r plentyn yn cael ei eni 15 wythnos cyn y dyddiad disgwyl.

Os bydd y baban yn marw

Mae cyflogeion yn dal i fod yn gymwys i gael absenoldeb neu dâl os yw’r baban:

  • yn farw-anedig ar ôl dechrau 24ain wythnos y beichiogrwydd

  • yn marw ar ôl cael ei eni

Hawliau cyflogaeth

Diogelir hawliau cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg) y cyflogai (fel yr hawl i gyflog, gwyliau a dychwelyd i swydd) yn ystod absenoldeb mamolaeth.

Mae’n dal yn rhaid i chi dalu Tâl Mamolaeth Statudol, hyd yn oed os ydych yn rhoi’r gorau i fasnachu.